Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Treftadaeth Ddiwydiannol

Wyndam Miners

Mwyngloddwyr Wyndam

Mae diwydiant trwm ym Mhen-y-bont ar Ogwr wastad wedi bod yn seiliedig ar y ddau fwyn sydd i'w cael yn fwyaf helaeth yma - glo a haearn. Nid oes tystiolaeth gennym o gwbl bod y Rhufeiniaid wedi cloddio amdanynt, ond roedd mynachod Abaty Margam yn y Canol Oesoedd eisoes yn chwilota am fetelau yng Nghorneli ac yn cloddio am lo. Sefydlwyd Gwaith Haearn Bedford yng Nghefn Cribwr ym 1775, gan ddefnyddio glo, calchfaen a mwyn haearn wedi'u cloddio'n lleol, ond ni wnaeth y diwydiant haearn fynnu o ddifrif tan ddechrau'r 19eg ganrif. Sefydlwyd gweithfeydd haearn ym Maesteg a Thon-du yn y 1820au ar ddechrau ffyniant y diwydiant haearn yng Nghwm Llynfi. Yn y pen draw, roedd cymaint ac ugain ffwrnais chwyth yn weithredol ar hyd y dramffordd a oedd yn rhedeg ar hyd Cwm Llynfi, ond o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg, buan iawn y daeth y rhain i fod yn hen ffasiwn. Nid oedd haearn yn cael ei gloddio'n lleol ar ôl 1884, ac fe gaeodd gwaith haearn Ton-du ym 1896. Hefyd yn y 19eg ganrif, roedd gweithfeydd byrhoedlog a oedd yn prosesu sinc a thunplat. Roedd y diwydiannau hyn yn defnyddio'r dyddodion glo lleol i fwydo'r ffwrneisi. Fodd bynnag, fe barodd y rhuthr am yr "Aur Du" am yn hwy na'r gweithfeydd trin metel.

Cychwynnodd y gweithfeydd glo masnachol cyntaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn y 1770au ac fe dyfasant yn gyflym yn y 1820au. Cymoedd Llynfi, Ogwr a Garw i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr oedd canolbwynt hollol maes glo De Cymru. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd 70 o lofeydd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr wrth i'r cymoedd gael eu trawsnewid o fod yn ardaloedd gwledig lle'r oedd pobl yn ffermio defaid i fod yn gymunedau diwydiannol. Heidiodd pobl i'r cymoedd i weithio ac, er mwyn rhoi lle iddynt fyw, fe godwyd rhesi o dai gan y "Meistri Glo". Heddiw, mae'r bythynnod hyn yn symbol o hanes y diwydiant glo yn Ne Cymru.

 DS1 Evanstown Provided By Wyndam Jones , Evanstown And Gilfach Goch History Society

Evanstown

Roedd rhai o'r pyllau enwocaf a mwyaf hirhoedlog yn Ne Cymru wedi'u lleoli yn sir Pen-y-bont ar Ogwr: Glofa Wyndham, y pwll glo olaf yng Nghwm Ogwr, a suddwyd ym 1865 ac a gaeodd ym 1983 a Phwll Sant Ioan, y pwll dwfn olaf yng Nghwm Llynfi a suddwyd ym 1908 ac a gaeodd ym 1985.

RAILWAY LINE

Mae peryglon mwyngloddio'n dra hysbys ac fe brofodd pyllau Pen-y-bont ar Ogwr eu siâr o drychinebau. Ar 26 Awst 1892, bu ffrwydrad yng Nglofa Parc Slip, a oedd wedi'i lleoli yn Abercynffig, gan arwain at golli 112 o fywydau.

Roedd ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn gyforiog o fwyn haearn a chlai ac fe sefydlwyd gweithfeydd haearn yn yr un cyfnod â'r pyllau glo. Adeiladodd y diwydiannwr o Birmingham, John Bedford, ffwrnais chwyth yng Ngwaith Haearn Cefn Cribwr ym 1780 a chafodd Gwaith Haearn Ton-du - y gwaith haearn Fictoraidd sydd yn y cyflwr gorau ym Mhrydain heddiw - ei adeiladu gan Syr Robert Price.

O'r 1950au, dechreuodd y diwydiant mwyngloddio ddirywio mewn modd di-droi'n-ôl ac, yn dilyn Streic y Glowyr rhwng 1984 a 1985, nid oedd pyllau gweithiol i'w cael mwyach yn y cymoedd i'r gogledd o Ben-y-bont. Bu i ffatrïoedd mewn ystadau diwydiannol newydd megis Rexel yn Llangeinwyr gynnig swyddi i rai o'r rheiny a adawyd yn ddi-waith gan y dirywiad yn niwydiant glo Cymru, a heddiw ychydig iawn sy'n weddill o'r pyllau a'r pentyrrau sorod a fu unwaith yn gefnlen i'r cymoedd. Yn eu lle, mae llynnoedd, parciau a gwarchodfeydd natur wedi cael eu creu, ac mae'r rheiny wedi adfer y dirwedd i'w hysblander cynddiwydiannol.

Miners Strike

Caerau yn ystod trafferthion Mwyngloddwyr 1926

Dolenni a Lawrlwythiadau