Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Diwylliant a Bywyd

BLAENGARW WORKMEN'S HALL 2

Roedd cymunedau'r Cymoedd yn glos, ac arferent ddod ynghyd yn y Neuaddau Gweithwyr enfawr, y capeli, mewn corau ac ar gyfer dathliadau. Cafodd Neuaddau'r Gweithwyr neu Sefydliadau'r Glowyr eu hadeiladu yn y cymunedau glofaol, gan gael eu hariannu â rhoddion o gyflogau'r glowyr. Dyma oedd canolbwynt bywyd cymdeithasol ac addysg, gyda dawnsfeydd, sinemâu a llyfrgelloedd.

Mae Neuadd Gweithwyr Blaengarw yng Nghwm Garw, a adeiladwyd ag arian o gyflogau'r glowyr ym 1893 ac a agorwyd ym mis Mawrth 1894 yn dal i gael ei defnyddio gan y gymuned heddiw. Ym Maesteg, fe adeiladwyd Llyfrgell a Sefydliad Glowyr North (sydd bellach yn arcêd difyrion) ym 1898 â rhoddion gan lowyr lleol a pherchennog y pwll glo, y Cyrnol North. Heddiw mae nifer o sefydliadau Glowyr sy'n dal yn sefyll ac yn dal i gael eu defnyddio yn ardal Maesteg. Ym 1901 cafodd Neuadd Gweithwyr a ariannwyd â thanysgrifiadau gan lowyr ei hadeiladu yn Nant-y-moel yng Nghwm Ogwr, i ddarparu lle ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol i lowyr a'u teuluoedd, ac fe ychwanegwyd sinema ym 1931. A hithau bellach wedi'i hailenwi ac yn cael ei hadnabod fel Canolfan Berwyn, cafodd ei throi ym 1974 yn Ganolfan Celfyddydau a Chymunedol sy'n gartref i oriel gelf, llyfrgell a theatr. Fe'i hariennir bellach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n dal yn greiddiol i'w chymuned fel lleoliad byrlymus ar gyfer perfformiadau byw a gweithgareddau addysgol.

Fe adeiladwyd Neuadd a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd Cwm Ogwr ym 1909 am gost o £9,000, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 18 Ionawr 1911. Roedd yn cynnwys neuadd gyhoeddus fawr (gyda lle i 1,000 o bobl), neuadd lai (gyda lle i 200), ystafell biliards gyda phedwar bwrdd, ystafelloedd pwyllgora, ystafelloedd darllen a llyfrgell a swyddfa gofalwr. Cafodd clocdwr a godwyd i goffau'r rhai a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd ei gwblhau ym 1949. Ystyrid mai hon oedd un o'r neuaddau gweithwyr ceinaf yn Ne Cymru nes i'r adeilad ddymchwel yn dilyn llifogydd difrifol ar 12 Mawrth 1981. Roedd pawb a oedd yn bresennol mewn noson bingo wedi gadael yr adeilad yn sydyn cyn y dinistr, diolch byth, wedi i graciau ddechrau ymddangos yn y waliau. Fe'i dymchwelwyd ym 1983.

Erbyn y 1930au roedd sinemâu ym mhob un o'r tri Chwm. Roedd gan Gwm Llynfi'r Colisseum yng Nghaerau. Ym Maesteg mae hen adeilad Sinema'r Plaza yn dal i'w weld, ac mae'n nodweddiadol o sinemâu yn y Cymoedd yn y 1930au. Roedd Sinema Olympia yng Nghwm Ogwr, a agorodd ym 1912, yn cael ei adnabod yn lleol fel 'The Lymp' ac roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pantomeimiau a digwyddiadau eraill hefyd.

Roedd adloniant byw gan sêr megis Stan Laurel yn cael ei ddarparu yn yr Hippodrome, a adweinid fel The Rink, ym Mhontycymer. Fe adeiladwyd The Rink ym 1910 a dim ond am ddeuddeng mlynedd y bu ar agor cyn iddo losgi i'r llawr ym 1922 ond roedd wedi ennill statws chwedlonol diolch i'r teulu Anderson a gydiodd yn yr awenau fel rheolwyr yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y teulu Anderson, diddanwyr neuaddau cerdd cyfoethog a oedd wedi teithio'r byd i gyd, yn enwog am eu haelioni tuag at bobl y Cwm. Byddai plant lleol yn cael anrhegion adeg y Nadolig ac yn ystod streic y glowyr ym 1912 fe drowyd The Rink yn gegin gawl i fwydo teuluoedd y glowyr. Fe arweiniodd y darganfyddiad diweddar bod y teulu Anderson wedi'u claddu mewn bedd di-nod ym Mynwent Pontycymer at osod cofeb ar y safle.

Roedd Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, a adeiladwyd ym 1932, hefyd yn lleoliad ar gyfer perfformiadau byw yn ogystal â bod y brif neuadd ddawns yn yr oes honno. Ym 1957 bu i waharddiad ar deithio gan Lywodraeth UDA atal Paul Robeson rhag ymddangos yn y cnawd yn Eisteddfod y Glowyr. Fodd bynnag, trwy gyfrwng cyswllt ffôn a drefnwyd yn ddirgel llwyddwyd i sicrhau ei fod yn dal i allu ymddangos yn fyw ar y noson. Capeli oedd ffocws y cymunedau trwy gydol yr wythnos. Roedd y rhan fwyaf o'r boneddigion yn mynychu eglwysi a oedd yn perthyn i Eglwys Loegr, gydag oedfaon yn cael eu cynnal yn Saesneg, tra bod y cymunedau lleol yn mynychu'r capeli anghydffurfiol niferus yn y Cymoedd, gyda nifer ohonynt yn cynnal oedfaon yn Gymraeg. Roedd plant yn mynychu'r capel sawl gwaith yr wythnos, gyda chlybiau drama a chorau'n gymaint o ran o'u gweithgareddau rheolaidd â'r oedfaon eu hunain.

Roedd y corau meibion uchel eu bri, y dathliadau a'r partïon stryd niferus a'r bandiau jazz lliwgar a oedd yn cystadlu ar hyd a lled Prydain oll yn ychwanegu at fywyd diwylliannol cyfoethog cymunedau'r Cymoedd.

Dolenni a Lawrlwythiadau