Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Cestyll o Fwrdeistref Pen y Bont a dros y ffin i'r Fro

COITY CASTLE 

Castell Coity

Cafodd cestyll Castellnewydd, Ogwr a Choety eu hadeiladu i amddiffyn tiroedd ffrwythlon gorllewin Morgannwg wedi i'r Normaniaid eu goresgyn ar ddechrau'r 12fed ganrif. Saif y tri chastell o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd yn y cwr yma o Dde Cymru, ac fe ddechreuodd y tri fel gweithfeydd pridd a choed, cyn cael eu disodli gan gaerau cerrig, y mae eu holion yn dal i'w gweld heddiw. Roedd y triongl hwn o gaerau gwaharddol yn ffurfio llinell amddiffynnol ddi-dor yn erbyn y Cymry a oedd wedi'u cythruddo am eu bod wedi colli eu tiroedd, ac a arferai ysgubo i lawr o'r bryniau gan ymosod. Y cestyll sy'n weddill yw'r rhai mwyaf a'r rhai sydd yn y cyflwr gorau o blith y tri ar ddeg o gestyll a thai amddiffynedig canoloesol y gwyddys am eu bodolaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Castellnewydd:

Mae Castellnewydd mewn lleoliad strategol ar ddibyn uchel uwchlaw Cwm Ogwr er mwyn gwarchod y llwybr ar draws yr afon islaw. Roedd y castell pren a phridd gwreiddiol, a grybwyllwyd gyntaf ym 1106, yn nodi terfyn gorllewinol concwestau Robert Fitzhamon. Y Brenin ei hun, Harri II oedd yn dal y castell ar ddiwedd y 12fedganrif a thua'r adeg honno y cafodd ei ailadeiladu â cherrig. Nodwedd fwyaf neilltuol y castell yw ei ddrws Normanaidd cyflawn sydd i'w weld wrth ddynesu at y castell o'r de. Cafodd rhannau o'r castell eu haddasu ar gyfer defnydd domestig yn yr 16eg ganrif pan ychwanegwyd ffenestri a lleoedd tân Tuduraidd. Heblaw am y gwaith adnewyddu yma ychydig oedd wedi newid yn y castell ers y 12fed ganrif. Ym 1217 rhoddwyd Castellnewydd i deulu'r Tubervilles, Arglwyddi Coety, oedd heb lawer o ddefnydd iddo gan fod eu prif leoliad hwy yng nghastell cyfagos Coety.

Castell Coety:

Yn ôl y chwedl, roedd Castell Coety yn eiddo'n wreiddiol i'r arweinydd Cymreig Morgan Gam, a hysbysodd y goresgynnwr Normanaidd Syr Payn de Tuberville y gallai gael y gaer pe bai'n ymladd amdani, neu'n priodi ei ferch, Sybil.

Ar ddechrau'r 15fed ganrif  fe ymosododd Owain Glyndŵr ar Gastell Coety ac fe drechodd fyddin o dan Harri IV a oedd wedi dod i'w ryddhau. A'r rhan fwyaf ohono bellach wedi'i ddinistrio, mae rhodfa ben mur a murfylchau Normanaidd Castell Coety yn dal i ychwanegu ysblander at yr olygfa leol.

Castell Ogwr:

Saif Castell Ogwr mewn doldir toreithiog ffrwythlon ochr yn ochr â'r Afon Ewenni, ac mae ei lonyddwch presennol yn dra gwahanol i'w fwriad milwrol gwreiddiol. Rhoddwyd y safle i William de Londres, un o Ddeuddeg Marchog Morgannwg gan Robert Fitzhamon, concwerwr Normanaidd Morgannwg, er mwyn gwarchod aber yr afon rhag y Cymry anrheithiol. Roedd yr amddiffynfa gylch Normanaidd wreiddiol yn cynnwys ffos a oedd wedi'i dylunio fel ei bod yn llenwi â dŵr yn ystod llanw uchel. Fel nifer o gestyll eraill, cafodd ei ailadeiladu â cherrig yn ystod y 12fedganrif, a'i orthwr Normanaidd yw un o'r cynharaf i oroesi yn Ne Cymru. Llwybr dynesu poblogaidd at y castell o Ferthyr Mawr yw ar hyd y 52 o gerrig rhyd ar draws yr Afon Ewenni.

Dolenni a Lawrlwythiadau