Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Pen-y-bont ar Ogwr yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd

gan Dr Edith Evans Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent

Gwyddom ers 2008, pan ddarganfuwyd ôl traed o'r Oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) ar y traeth yng Nghynffig fod pobl wedi byw yn yr ardal sydd erbyn hyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y cyfnod hwnnw.

Roedd y môr wedi golchi dyddodion oddi ar haenen o fawn ar y traeth yn ystod storm. Roedd lefel y môr yn is yn y cyfnod Neolithig felly byddai'r mawn hwn wedi bod yn dir corsiog ar yr adeg honno, lle'r oedd pobl yn dod i hela neu bysgota. Dengys dyddiadau radiocarbon y mawn ei fod wedi ei ffurfio tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Gallwn ddweud oddi wrth weddillion y paill a'r creaduriaid môr microsgopig oedd ynddo bod y mawn wedi dechrau casglu pan oedd y tir hwn yn forfa, cyn iddo ddechrau tro'n gors ddŵr croyw, yn fwy na thebyg pan gasglodd y twyni tywod a rhwystro'r llanw rhag golchi drosto.

Yn Llandudwg a Choed Parc Garw ceir adfeilion siambrau claddu lle claddwyd pobl o'r Oes Neolithig.Adeiladwyd y siambrau a'r fynedfa o slabiau mawr o garreg gyda charreg anferth un gapfaen dros y cwbl, a byddai wedyn wedi'i orchuddio â thomen o bridd. Nid ydym yn gwybod rhyw lawer am y beddrodau ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd ni chafodd yr un o'r ddau ei gloddio erioed. Er hynny, fe wyddom o leoedd eraill ei bod yn debygol bod y cyrff yn cael eu gadael yn yr awyr agored nes i'r cnawd ddiflannu oddi ar yr esgyrn, ac yna arferir casglu'r rheini a'u rhoi yn y siambrau.

Mae llawer llai o wybodaeth gennym ynglŷn â lle'r oedd pobl yn byw, fodd bynnag yn 1951 cloddiwyd tŷ bychan neu gwt yn Mount Pleasant ar Dwyn y Drenewydd yn Notais ger Porthcawl gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.Roedd ar ffurf hirgrwn neu hirsgwar â muriau carreg a byddai pyst pren wedi cynnal y to. Awgrymodd yr astudiaeth ddiweddaraf o'r crochenwaith a gysylltir â'r safle fod yr adeilad o bosibl yn dyddio'n ôl at Ganol yr Oes Neolithig (tua 3,600 CC). Gwyddom fod rhaid i'r adeilad fod wedi mesur o leiaf 5.5x2.5m tu fewn, ond ni allwn fod yn sicr oherwydd y dymchwelwyd y pen gorllewinol pan adeiladwyd strwythur newydd drosto. 

Carnedd o'r Oes Efydd oedd y strwythur newydd hwn. Roedd yn debyg i ddwy arall ger Bracla, Carnedd y Pwll a Charnedd Simondston, a gloddiwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Bracla'n cael ei ddatblygu'n Ffatri Arfau'r Goron. Roedd Carnedd y Pwll, ac yn fwy na thebyg y garnedd yn Mount Pleasant hefyd, yn garneddau cylchog, gyda chorfflosgiad mewn pydew yn y canol a chylch mawr o dalpiau o gerrig o'i amgylch. Fodd bynnag mae'n anodd bod yn sicr yn Mount Pleasant oherwydd bod aredig wedi difrodi'r garnedd. Roedd corfflosgiad arall, mewn wrn, wedi ei osod dros y pydew canolog yng Ngharnedd y Pwll a'i orchuddio â phentwr bach o gerrig, cyn codi tomen o dywyrch drosto, gyda gofod rhyngddi â'r cylch. Yn wahanol i'r garnedd yn Mount Pleasant, nid oedd Carnedd y Pwll wedi cael ei gorchuddio â thomen pridd. Roedd cist garreg yng nghanol Carnedd Simondston yn cynnwys dau wrn, pob un yn cynnwys llwch oedolyn a phlentyn. Roedd wedi'i orchuddio â thomen isel o ddarnau o gerrig, gydag ymylfeini mwy o gwmpas yr ochr allanol. Roedd rhagor o gladdedigaethau wedi digwydd yn ddiweddarach yn ochrau'r garnedd.

Er nad oes dim i'w weld yn yr un o'r lleoliadau hyn nawr, gellir gweld tomenni claddu o'r Oes Efydd mewn rhannau eraill o'r sir, un ai o garreg (carneddau) neu o bridd (crugiau). Mae rhes o garneddau carreg i lawr crib Comin Llangeinwyr a grŵp o grugiau yn y cae nesaf at Sker House, er enghraifft. Nid yw'r crugiau yn Sker House ger wedi cael eu cloddio, ond ymyrrwyd ag un ohonynt pan ledaenwyd y llwybr at Sker House, a chanfuwyd pastwn carreg. Un safle arall sydd wedi cael ei gloddio yw'r maen hir sy'n sefyll y tu allan i Ganolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr. Pan symudwyd hon yn 1964 i wneud lle i'r Ganolfan, darganfu'r Amgueddfa Genedlaethol bod corfflosgiad o'r Oes Efydd oddi tani hithau hefyd!

Mae olion o'r oes Efydd yn dal i gael eu darganfod.Cynhaliwyd prosiect archeoleg gymunedol ar  Fryn-y-Wrach, darn bach o dir comin, yn fanwl. Roeddem yn gwybod am un domen ac yn meddwl ei bod yn debygol o fod yn garnedd, er iddi ddiflannu o dan domen dail am sbel! Gwnaeth y grŵp gynllun manwl a chynnal arolwg geoffisegol, ac yna gwnaethant gloddiad bach i ddod ag wyneb y domen garreg i'r fei. O ganlyniad i'r gwaith hwn, gallwn fod yn eithaf hyderus ei bod yn garnedd o'r Oes Efydd. Edrychodd y grŵp hefyd ar ddarn o dir caregog ar y comin a daethant i'r casgliad fod hwn hefyd wedi bod yn garnedd. Yn yr achos hwn, roedd y rhan fwyaf o'r cerrig wedi cael eu cludo oddi yno yn y gorffennol, gan bobl oedd yn adeiladu ffyrdd neu furiau'n fwyaf tebyg.

Ysgrifennwyd gan y Dr Edith Evans - Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent

 

Dolenni a Lawrlwythiadau