Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Hanes Amaethyddiaeth ym Mhen-y-bont

Chicken Ladies

 Teulu Amaethyddol yn Melin Ifan Ddu yn paratoi dofednod

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr hanes cyfoethog o ffermio, bwyd ac amaethyddiaeth. Ym Mro Morgannwg mae gwartheg a chnydau'n cael eu ffermio ar yr iseldiroedd âr ffrwythlon a arferai fod yn rhan o wely'r môr. I'r gogledd, mae bryniau Morgannwg yn gartref i ddefaid Mynydd Cymreig, a fu ers canrifoedd yn gymaint o ran o'r dirwedd â'r bryniau eu hunain.

Am ganrifoedd, bu ffermwyr yn rhannu eu blwyddyn rhwng dau leoliad. Ar ddiwedd yr hydref byddai'r ffermwr yn symud ei anifeiliaid i'r cwm neu'r arfordir er mwyn iddynt gael lloches dros y gaeaf tra'i fod ef yn byw yn yr Hendre yn y cwm. Yn y gwanwyn byddai'n mynd â'i anifeiliaid i'r tir pori ar y mynyddoedd ac yn symud i'w gartref dros dro, yr Hafod. Roedd hyn yn golygu bod gan ei anifeiliaid fwyd trwy gydol y flwyddyn ac y gellid defnyddio'r tir yn y cwm i dyfu cnydau yn ystod yr haf. Daeth yr arfer hwn i ben yn Oes Fictoria, ond mae Hafod a Hendre yn dal i fod yn rhan o enwau tai nifer o ffermydd yng Nghymru. Tan hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y bryniau o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr yn denau eu poblogaeth ac yn ddibynnol ar amaethyddiaeth. Fodd bynnag, yn sgîl darganfod glo cafwyd mewnlifiad enfawr o bobl i weithio yn y pyllau glo ac o 1880 fe ehangodd y boblogaeth yn gyflym. Daeth y diwydiant glofaol â llewyrch economaidd i ffermwyr wrth i'r galw am gynnyrch gynyddu'n ddramatig. Roedd y ffermydd yn cynhyrchu llaeth, wyau, menyn a chaws yn ogystal â chig a byddai ŵyn yn cael eu gwerthu a'u prynu'n lleol gyda nifer uchel o ladd-dai a chigyddion lleol yn gwasanaethu'r fasnach hon. Ar un adeg roedd o leiaf hanner dwsin o ladd-dai yng Nghwm Garw yn unig.

Bull

Cigydd Jones, Blaengwynfi

Roedd y cyfnod ffyniannus hwn ym myd amaeth cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn golygu bod gan y ffermwr-denant bellach y moddion i brynu ei fferm ei hun. Roedd tirfeddiannaeth wedi bod yn bennaf yn nwylo ychydig o ystadau mawr, ond bellach roedd y rhain yn cael eu rhannu'n barselau o dir i'w gwerthu. Prynodd cynghorau lleol nifer o ddaliadau hefyd i'w gosod ar rent. Cafodd ystadau cain tirfeddianwyr cyfoethog, megis y teulu Treherne ym Mryngarw, eu datgymalu a chafodd y tir ei rannu ymysg ffermwyr cyffredin.

Daeth mwy o newidiadau gyda'r Ail Ryfel Byd, oherwydd tan y 1930au, roedd ffermwyr yng Nghymru'n gweithio'u tir â cheffylau ac yn dibynnu ar niferoedd mawr o weithwyr fferm. Roedd grawn rhad yn cael ei fewnforio o dramor, yn cael ei gludo i mewn trwy'r Ymerodraeth. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd roedd angen dull mwy dwys o gynhyrchu bwyd ac fe arweiniodd technoleg newydd megis tractorau at ddyblu'r bwyd a gynhyrchid bron iawn. Fe newidiodd rôl menywod ar y fferm hefyd. Yn draddodiadol roedd menywod wedi bod yn gyfrifol am odro'r gwartheg a gwneud y menyn a'r caws, yn ogystal â helpu i gynaeafu a phlannu a chodi tatws. Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd fe sefydlwyd Byddin Dir y Menywod i weithio ar y ffermydd.

Roedd marchnadoedd wythnosol a ffeiriau rheolaidd yn nodwedd ar fywyd ffermio nes i'r system reilffyrdd gael ei datblygu yn y 1840au ac mae'r traddodiadau'n dal yn fyw ar ffurf ocsiynau da byw a sioeau amaethyddol ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Sefydlwyd Arwerthiannau Defaid Melin Ifan Ddu ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, a hwythau'n cael eu cynnal bob pythefnos am 6 mis o'r flwyddyn. Byddai ffermwyr yn gyrru eu defaid am sawl milltir dros y bryniau i lawr i Felin Ifan Ddu, naill ai ar droed neu ar gefn ceffyl. Mae'r arwerthiannau, a oedd yn fan cyfarfod rheolaidd, ac yn hanfodol i fywyd cymdeithasol y gymuned yn ogystal â bywyd amaethyddol ac economaidd, yn parhau hyd heddiw, er bod y da byw bellach yn cael eu cludo mewn cerbyd.

Ers canrifoedd mae sioeau amaethyddol wedi bod yn ddigwyddiadau blynyddol i ddathlu bywyd amaethyddol yr ardal. Roedd Sioe Dwnrhefn, a gynhelid ar ystâd Dwnrhefn ar Arfordir Sir Forgannwg, yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr amaethyddol y 1920au a'r 1930au, gyda gwesteion yn y castell a oedd yn cynnwys aelodau o'r teulu brenhinol a phobl bwysig yr oes honno. Cafodd sioe Glyn Ogwr, a gynhelid ar ddechrau'r flwyddyn yn Fferm Pwllyfelin, ei hatgyfodi ar ei ffurf bresennol ym 1948 a'r sioe hon bellach yw prif sioe amaethyddol yr ardal yn ogystal â bod yn un o uchafbwyntiau cymdeithasol y flwyddyn. Yn y  1970au dechreuodd archfarchnadoedd brynu bwyd rhad ac roedd masnach fyd-eang yn bygwth y fasnach amaethyddol leol. Ar un adeg roedd cig lleol wedi bod yn sail i ddietau pobl, ond bellach roedd siopau pentref, siopau cig a lladd-dai bychain y cymoedd yn cau. Yn lle hynny, roedd defaid yn cael eu gwerthu yn uniongyrchol i ladd-dai'r archfarchnadoedd mawr ac yn cael eu symud o gwmpas y wlad i gael eu pacio.

Mae'r ganrif hon wedi dod â heriau a chyfleoedd newydd i amaethyddiaeth leol. Yn 2002 bu bron i Glwy'r Traed a'r Genau barlysu diwydiant ffermio Prydain wrth i filoedd o anifeiliaid gael eu difa.

Fodd bynnag, yn rhannol o leiaf, mae ffermio wedi troi mewn cylch cyfan. Heddiw mae galw cynyddol am gynnyrch lleol ffres ac mae marchnadoedd ffermwyr a siopau fferm yn ei gwneud yn bosib gwerthu bwyd yn uniongyrchol i'r cyhoedd unwaith eto. Mae nifer o deuluoedd wedi bod yn ffermio'r un tir ers sawl cenhedlaeth - y teuluoedd Hopkins, Williams a Jones ym Melin Ifan Ddu a'r teulu Morgan sydd wedi bod yn ffermio yng Ngellifeddgaer ers degawd cyntaf y ddeunawfed ganrif. Roedd Charles a Gill Morgan a'u mab Richard, sydd â gofal am y fferm ar hyn o bryd, yn flaenllaw ym mudiad lleol y Farchnad Ffermwyr ac maent wedi bod yn gwerthu eu cig yn uniongyrchol i'r cyhoedd am dros 12 mlynedd.

Yn Fferm Tŷ Tanglwyst, roedd William Jenkins yn gwerthu llaeth yn uniongyrchol i'r cyhoedd bedair cenhedlaeth yn ôl. Heddiw mae ei ŵyr John Lougher a'i or-ŵyr Rhys yn rhedeg busnes llaethdy gwobrwyol, gan brosesu eu llaeth eu hunain yn eu llaethdy ar y fferm a gwerthu llaeth, hufen a menyn yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy siopau lleol. O'r 1960au tan y 1980au byddai'r steniau llaeth yn cael eu casglu ym mhen y lôn ac yn cael eu cludo i Hufenfa Pen-y-bont lle'r oedd llaeth yn dal i gael ei brosesu'n lleol. Ar ddiwedd yr '80au fe ddechreuwyd defnyddio tanceri hylif mawr ac roedd llaeth yn cael ei gludo ar hyd a lled y wlad. Fe ddechreuodd Fferm Tŷ Tanglwyst ei llaethdy yn 2006 ac mae'n dal i ddefnyddio rhai o'r hen steniau llaeth i ddanfon llaeth at y cynhyrchwyr hufen iâ lleol.

 DSCF5104

Llaethdy Ty Tanglwyst

Heddiw mae mwy o alw ymhlith y cyhoedd am fynediad at gefn gwlad. Mae twristiaeth a gweithgareddau hamdden yn flaenoriaeth uchel ac mae ffermwyr yn arallgyfeirio. Cyn i'r diwydiant glofaol ddod i gymoedd De Cymru byddai teithwyr, beirdd ac artistiaid cefnog yn ymweld â'r ardal i fwynhau ei harddwch gwyllt. Ers i'r pyllau gau mae pobl yn dod eto i fwynhau'r dirwedd a gweithgareddau megis cerdded, beicio mynydd a merlota ac mae ffermydd yn manteisio ar hyn. Yn Hendre Ifan Goch, fferm ddefaid weithiol, fe sefydlodd y teulu Edwards Barc Fferm Lakeside, sy'n atyniad poblogaidd iawn ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

DSC_0086

Fferm Lakeside

Mae rôl newydd yn cael ei rhoi i ffermwyr hefyd fel ceidwaid cefn gwlad, gyda chymelliadau i ddiogelu a gwarchod eu tir ac i annog bywyd gwyllt. Mae eu llwyddiant i'w weld yn y ffaith bod Barcudiaid Coch, a fu ar fin darfod ar un adeg, bellach yn bridio eto yn ardal Melin Ifan Ddu.

Img 011

 Catherine Williams o Bant y Cornant gyda gwobr gyntaf yn Nglynogwr

Dolenni a Lawrlwythiadau