Heritage Background Image
Chwilio am Rhywbeth?

Cwmni Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl

CEFN SIGNAL BOX 1.12x9

Bocs signal Cyffordd Cefn

Ym 1825 fe sefydlodd grŵp o dirfeddianwyr a gwŷr busnes lleol Gwmni Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl i redeg cerbydau ceffyl. Byddai'n mynd o Faesteg yng Nghwm Llynfi i lawr at y môr ym Mhorthcawl lle'r oedd harbwr newydd wedi cael ei adeiladu i wasanaethu'r diwydiannau glo a haearn a oedd yn ehangu yn y cymoedd i'r gogledd o Ben-y-bont.   

Fe agorodd y llinell 17 milltir o hyd ym 1828 ac roedd yn cysylltu'r harbwr â'r gweithfeydd haearn yng Nghefn Cribwr, Abercynffig a Maesteg yn ogystal â Glofa Dyffryn. Llinell un trac ydoedd gyda mannau pasio ac fe'i hadeiladwyd â lled o 4 troedfedd, 6 modfedd. Roedd y cledrau wedi'u gosod yn sownd ar flociau cerrig er mwyn gadael llwybr clir y gallai'r ceffylau a'u tywyswyr gerdded ar ei hyd. Roedd yn gostwng 490 troedfedd o'i man cychwyn ger Caerau ym Maesteg. Erbyn 1845 roedd dros 35,000 tunnell o lo a 21,000 tunnell o haearn yn cael eu hallforio o'r porthladd ym mhen y daith ym Mhorthcawl.

Dengys amserlen o 1855 ei bod yn cymryd 6 ¼ awr i deithio o Faesteg i Borthcawl tra bod y daith yn ôl, gyda'r ddringfa fwy serth, yn cymryd 2 ¼ awr yn fwy.

Dechreuodd traffig teithwyr ddefnyddio'r llinell ym 1836 ac ym 1861 cafodd y trac ei addasu i gael ei ddefnyddio gan drenau stêm. Buan iawn y daeth Porthcawl i fod yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer teithwyr dydd ac roedd y llinell leol i Borthcawl o Don-du yn dal yn weithredol tan y 1960au pan gafodd ei chau oherwydd Adroddiad Beeching.

Mae Taith Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl yn daith gerdded amrywiol a difyr ar hyd llwybr gwreiddiol Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl, sy'n mynd heibio i henebion diwydiannol pwysig a bywyd gwyllt prin. Gan ddechrau yng nghalon Cwm Llynfi yn nhref farchnad hynafol Maesteg, caiff ymwelwyr eu tywys i Barc Ton-du, atyniad ac adnodd addysgol pwysig sy'n amgylchynu olion Gwaith Haearn Ton-du, y gwaith haearn Fictoraidd mwyaf cyflawn ym Mhrydain. Wedyn, ceir Gwarchodfa Natur Parc Slip sydd bellach, ar ôl canrif o gloddio am lo ar y safle, yn amgylchedd unigryw o wlypdir, coetir a dolydd a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ers y 1980au. Ym 1898, fe greodd datblygu diwydiannol yr angen am farchnadoedd ehangach na phorthladd Porthcawl, gan arwain at sefydlu Rheilffordd Port Talbot. Wrth y gyffordd gyda Llinell Leol Porthcawl ar reilffordd newydd Great Western, fe adeiladwyd Caban Signalau Cefn, sef yr arosfa nesaf ar Lwybr Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl. Y man terfynol ar lwybr yr hen reilffordd yw Parc Bedford, cymysgedd o archaeoleg ddiwydiannol a phlanhigion a blodau prin ar safle'r hen waith haearn o'r 1780au a sefydlwyd gan John Bedford. Gall beicwyr fwynhau'r Llwybr Celtaidd sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r gwaith haearn.

Gall ymwelwyr sganio'r cod QR mewn mannau ar hyd y Daith i gael mynediad at ddolenni fideo sy'n dod â'r rheilffordd yn fyw.

Dolenni a Lawrlwythiadau